Pan ddelo angeu yn ei rwysg

1,2,3,4,5,6;  1,(2,4,5),3,6;  1,4,3,(6,(7)).
(Noddfa yn angeu)
Pan ddelo angeu yn ei rwysg,
  I dori fy oll i lawr,
Fy unig noddfa werthfawr fydd
  Yn fy Ngwaredwr mawr.

Pan ddarfo enwau oll o'r bron,
  A cyfaill, mam, a thad,
Yr enw hyfryd unig fydd
  Yr iachawdwriaeth rad.

O gâd im' mewn tangnefedd pur,
  Roi f'anadl ola'i maes,
Ac mewn gorfoledd hwylio dros
  Y cefnfôr garw glâs.

Fe saif cyfammod pur y nef,
  Yn gadarn yn ei rym,
Pan fo pob cysur îs y nef
  Gwedi diflanu'n ddim.

Y cyfan gwedi rhoi ffarwel,
  A welwyd îs y rhod;
Yna fy Iesu fydd y Brawd
  Anwylaf gaed erioed.

A myn'd dan ganu tua'r wlad
  A drefnwyd i mi fyw;
A gwedi gadaw 'mhell o'm hol
  Gystuddiau o bob rhyw.

Fe ddaeth y Iubil werthfawr lawn,
  Ar ol och'neidio'n hir;
Ac mi ges weled hyfryd ran,
  O'r Baradwysaidd dir.
Yn gadarn :: Pryd hyny
A drefnwyd i mi :: Bwrpaswyd imi

William Williams 1717-91

Tonau [MC 8686]:
Bath Chapel (<1801)
Burford (Salmydd Chetham 1718)
St Mary (Salmydd E Prys 1621)
Windsor (Christopher Tye c.1505-73)

gwelir:
  Fe ddaeth y Jubil werthfawr lawn
  Darfydded dydd darfydded nôs
  Mae durtur yr efengyl fwyn

(A refuge in death)
When death comes in its pride,
  To break me all down,
My only precious refuge shall be
  In my great Deliverer.

When all names perish utterly,
  And friend, mother, and father,
The only delightful name shall be
  The gracious saviour.

Oh let me in pure tranquility,
  Give out my last breath,
And in jubilation sail across
  The rough blue ocean.

The pure covenant of heaven shall stand,
  Strong in its force,
Whenever every comfort under heaven
  Has disappeared to nothing.

The whole having bidden farewell,
  And withered under the sky;
Then my Jesus shall be my dearest
  Brother ever had.

And going while singing towards the country
  Which was arranged for me to live;
And after leaving far behind me
  Afflictions of every kind.

The precious full Jubilee came
  After groaning long;
And I got to see a delightful portion,
  Of the paradisiacal land.
Strong :: At that time
Which was arranged for me :: Which was purposed for me

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~